Diddordeb mewn mabwysiadu

National Adoption Week Welsh on Biteable.

 

Rydym yn awyddus i sicrhau bod plant yn tyfu i fyny yn rhan o deulu parhaol a chariadus nes y byddant yn oedolion. Rydym yn darparu amrywiaeth o wasanaethau ac adnoddau i helpu teuluoedd i ofalu am eu plant ond, os nad yw hyn yn bosibl, mae ein Gwasanaeth Mabwysiadu yn dod o hyd i deuluoedd eraill parhaol. Does dim gwahaniaeth os oes gennych blant yn barod, os ydych yn sengl neu'n gwpl, yn briod, yn ddi-briod neu mewn partneriaeth sifil.

Rydym yn recriwtio, hyfforddi ac asesu darpar fabwysiadwyr i ddarparu lleoliadau mabwysiadu o ansawdd uchel ar gyfer plant a phobl ifanc lleol, gan eu galluogi i fyw gyda theuluoedd newydd a pharhaol. Rydym yn cydweddu ac yn lleoli plant gyda rhieni mabwysiadol ar ôl asesu eu bod â'r sgiliau i ddiwallu anghenion y plant ac yn gallu darparu sefydlogrwydd a chyfle iddynt ffynnu. Mae'r tîm yn rhoi llawer o gefnogaeth i fabwysiadwyr a'u teuluoedd, drwy gydol bywyd y plentyn mabwysiedig.

Rydym yn cydweithio'n agos â'n cydweithwyr yn y Timoedd Plant er mwyn sicrhau bod plant sydd i'w mabwysiadu yn cael eu paratoi ar gyfer symud at eu teuluoedd newydd a bod ganddynt rywun i wrando ac i’w helpu drwy gydol y broses.

Beth yw mabwysiadu?

Ffordd o ddarparu teulu newydd i blentyn pan nad yw'n bosibl i'r plentyn fyw gyda'i deulu neu ei theulu geni yw mabwysiadu.

Mae’r plant yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru sydd angen teuluoedd mabwysiadol yn cynnwys:

  • Plant cyn oed ysgol 0-5 oed
  • Plant oed ysgol hyd at bobl ifanc yn eu harddegau
  • Brodyr a chwiorydd sydd angen bod gyda'i gilydd
  • Plant o grwpiau lleiafrifoedd ethnig
  • Plant ag anableddau corfforol a/neu anableddau dysgu
  • Plant ag ansicrwydd datblygiadol neu salwch sy'n byrhau bywyd 

Pwy sy'n gallu mabwysiadu?

Mae arnom angen mabwysiadwyr o amrywiaeth o gefndiroedd fel y gallwn osod plant gyda theuluoedd ac unigolion sy'n rhannu'r un diwylliant, iaith a chrefydd.

Gallwch gael eich ystyried os ydych:

  • Yn 21 oed neu'n hŷn. Nid oes terfyn uchaf o ran oedran, ond rhoddir ystyriaeth i'r gwahaniaeth oedran rhyngoch chi a phlentyn sy'n cael ei fabwysiadu. Os ydych yn dymuno mabwysiadu llysblentyn darllenwch y wybodaeth i lys-rieni gan fod y rheoliadau'n wahanol.
  • Yn sengl – yn ddyn neu'n fenyw, gyda phlant neu heb blant
  • Yn byw gyda'ch partner neu'n briod, gyda phlant neu heb blant
  • Wedi ysgaru
  • O unrhyw gefndir ethnig, crefyddol, ieithyddol a diwylliannol
  • Yn anabl
  • Yn gweithio'n llawn-amser / rhan-amser neu os nad ydych yn gweithio

Does dim gwahaniaeth os ydych yn berchen ar eich cartref neu'n ei rentu ar yr amod eich bod yn gallu rhoi diogelwch, sefydlogrwydd a sicrwydd i blentyn.

Yr hyn sydd o ddiddordeb i ni yw beth y gallwch chi ei gynnig i fywyd plentyn. Yn y pen draw, eich parodrwydd chi i ymrwymo i roi cartref cariadus a pharhaol i blentyn fydd yn gwneud y gwahaniaeth.

Er mwyn diogelu plant rhag niwed, mae rhai troseddau sy’n eich gwahardd chi’n syth rhag mabwysiadu. Os ydych wedi eich cael yn euog o drosedd nid yw hynny o reidrwydd yn eich atal rhag bod yn rhiant mabwysiadol, ond os oes gennych gofnod troseddol, mae'n rhaid ichi roi gwybod i ni.

Ynglŷn â’n plant

Rydym yn dal i chwilio am rieni i fabwysiadu plant iau, ond gan y byddai’n well gan ganran uchel o ddarpar fabwysiadwyr fabwysiadu plentyn mor ifanc â phosibl, y mae’n bwysig iawn eich bod yn ymwybodol bod nifer y plant iau wedi gostwng yn y blynyddoedd diwethaf. Ond mae dal angen dod o hyd i deuluoedd parhaol i blant eraill sydd yn aml wedi bod yn aros am hir.

Dyma rywfaint o wybodaeth am blant go iawn y gallai fod arnynt angen teuluoedd i’w mabwysiadu, ond gyda’u henwau wedi’u newid:

6 oed yw Tommy, ac mae angen teulu arno sy’n barod i gynnal cyswllt rhwng Tommy a’i frawd genedigol sydd mewn lleoliad mabwysiadu ar wahân. Mae Tommy yn mwynhau cael hwyl, ac mae’n grwtyn caredig a phoblogaidd. Mae’n greadigol iawn ac yn mwynhau chwarae yn yr awyr agored. 
Daeth Tommy i mewn i ofal ym mis Ionawr 2014, yn dilyn hanes o esgeulustod. Mae Tommy wedi ffynnu yn ei leoliad maeth ac mae ei sgiliau lleferydd ac iaith yn gwella.  O gael ei leoli gyda’r teulu iawn, y gobaith yw y bydd Tommy yn parhau i ffynnu.


Brawd a chwaer 3 a 4 oed yw Aiden ac Isabelle. Mae ganddynt berthynas agos, ac maen  nhw wastad wedi byw gyda’i gilydd. Mae Isabelle yn amddiffynnol iawn o’i brawd iau ac mae’n aml yn ymddwyn yn hŷn na’i hoed. Mae’n hunanddibynnol iawn ac nid yw’n troi at oedolion i gael help gyda’i hanghenion gofal. Mae gan Aiden ac Isabelle hanner chwaer iau sy’n 12 mis oed ac sydd wedi’i lleoli gydag aelodau o deulu’r rhieni. Bu’r tri phlentyn yn dyst i drais domestig yn y cartref ac mae angen rhywun arnynt sy’n deall effaith bod yn dyst i brofiadau trawmatig ifanc.


Mae Isaac, sy’n 14 mis oed, yn fabi cymdeithasol a hapus ac yn ymateb yn dda iawn i’w ofalwyr presennol.  Gwyddom fod mam enedigol Isaac wedi defnyddio sylweddau yn ystod ei beichiogrwydd ac o’r herwydd roedd ei ffordd o fyw yn gaotig iawn yn ystod cyfnod cyntaf bywyd Isaac.  Er bod Isaac yn cyrraedd ei feini prawf datblygiadol, y mae ansicrwydd ynglŷn â’i ddyfodol, o ystyried ei fod mor ifanc a’i brofiad yn ei fisoedd cynnar, a’r ffaith nad yw’n wybyddus pwy yw ei dad genedigol.


Mae gan Charlotte, sy’n ddwyflwydd a hanner, gyflwr genetig penodol a allai olygu y bydd ganddi anghenion addysgol ychwanegol yn y dyfodol.  Mae gan ei mam enedigol hefyd anawsterau dysgu yn sgil y cyflwr hwn. Y mae’n ferch fach hyfryd, sydd wrth ei bodd yn cymysgu gyda phawb o’i chwmpas ac mae’n cyrraedd pob un o’i meini prawf. Mae angen teulu ar Charlotte sydd â’r cadernid i ymdopi â’r ansicrwydd ynglŷn â’i datblygiad yn y dyfodol ac sydd heb ddisgwyliadau afrealistig iddi.


Daeth Jack, sy’n 3 oed, i dderbyn gofal wedi iddo gael anaf nad oedd modd ei esbonio ond nad damwain mohono. Bachgen bach tawel yw Jack sydd â thuedd i chwarae ar ei ben ei hun. Mae angen amgylchedd diogel, cariadus ar Jack, a rhieni sy’n amyneddgar a gofalgar tuag ato. Cyn symud i ofal maeth, byddai Jack yn aml yn cael ei adael yng ngofal oedolion anaddas a chafodd ei symud sawl gwaith. Mae Jack wedi setlo’n dda yn ei leoliad, ac mae’n dechrau ffurfio ymlyniad at ei ofalwyr maeth. Y mae bellach yn ymateb yn dda i drefn a strwythur. Er bod gorchymyn lleoli wedi’i roi, y disgwyl yw y bydd mam enedigol Jack yn gwrthwynebu gorchymyn mabwysiadu.

Beth sydd ei angen i fod yn rhiant mabwysiadol?

Bydd angen ichi:

  • Fod yn realistig.
  • Bod yn awyddus i helpu plentyn i gyrraedd ei botensial neu ei photensial yn llawn.
  • Dealltwriaeth o anghenion plant a phobl ifanc sydd wedi cael eu hesgeuluso neu eu cam-drin.
  • Personoliaeth ofalgar
  • Synnwyr digrifwch da
  • Yr amser, y lle a'r egni i'w roi i blentyn
  • Parodrwydd i ofyn am a derbyn cymorth, cyngor ac arweiniad gan weithwyr proffesiynol
  • Bod yn wydn
  • Cael cefnogaeth gan deulu a ffrindiau
  • Bod yn hyblyg ac yn anfeirniadol
  • Ddim yn ysmygu neu wedi rhoi'r gorau i ysmygu am flwyddyn os ydych am fabwysiadu plant 0-5 oed

Pethau i'w hystyried

Bydd yn cymryd amser ac ymroddiad i feithrin perthynas lwyddiannus a pharhaol gyda'ch plentyn newydd. Nid yw hyn yn digwydd yn syth a gall gymryd yn fwy na'r disgwyl. Felly, mae'n bwysig meddwl am y canlynol:

  • A oes gennych ddigon o le yn eich cartref?
  • Sut fyddwch chi'n sicrhau cydbwysedd rhwng ymrwymiadau eraill?
  • A oes gennych rwydwaith o gymorth gan deulu a ffrindiau?
  • A yw eich iechyd yn dda?
  • A ydych wedi cwblhau unrhyw archwiliadau ffrwythlondeb?
  • A ydych wedi trafod eich diddordeb mewn mabwysiadu gyda'ch teulu?
  • Sut fyddwch chi'n ymdopi'n ariannol gyda chostau ychwanegol a pharhaus magu plentyn?
  • A ydych wedi ystyried y bydd costau ariannol i chi yn ystod y broses (e.e. profion meddygol, costau'r llys?) 

Mathau eraill o fabwysiadu

Mabwysiadu plentyn o wlad arall

Mae hyn yn digwydd pan fydd rhywun o un wlad yn mabwysiadu plentyn o wlad arall. Bydd y plentyn yn symud yn gyfreithlon ac yn barhaol o'u teulu geni i'w teulu mabwysiadol. Mae croeso i chi gysylltu â ni i gael rhagor o wybodaeth neu drafodaeth anffurfiol gydag aelod o'r tîm.

Mae rhagor o wybodaeth am fabwysiadu ar dudalennau'r Adran Addysg


Mabwysiadu gan Lys-riant

Mabwysiadu gan lys-riant yw pan fydd rhiant nad yw'n rhiant biolegol yn dymuno mabwysiadu plant ei bartner sydd o dan 18 oed o berthynas flaenorol.

Yn ogystal â mabwysiadu gan lys-riant, mae sawl ffordd arall o sicrhau sefydlogrwydd i'ch teulu.

Os hoffech ragor o wybodaeth am hyn neu am ffyrdd eraill o ddarparu cartref parhaol i blant neu bobl ifanc, mae croeso ichi gysylltu â ni.

Paratoi i fabwysiadu - hyfforddi ac asesu

Y Broses Hyfforddiant ac Asesu

Cyn y cewch fabwysiadu plentyn, bydd rhaid i chi a'ch teulu wneud rhywfaint o hyfforddiant ac asesu er mwyn gwneud yn siŵr mai mabwysiadu yw'r peth iawn i chi, eich teulu ac i'r plentyn sy'n cael ei fabwysiadu.

Mae'r broses yn cynnwys:

  • Ymweliad cwnsela cyntaf gan aelod o'r Tîm Mabwysiadu.
  • Cwrs hyfforddiant ‘Paratoi i Fabwysiadu’
  • Ffurflen gais sy’n rhoi caniatâd i ni gynnal archwiliadau a geirdaon personol a phroffesiynol, yn cynnwys y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (archwiliad gan yr heddlu) a sgrinio iechyd.
  • Rhoi caniatâd i ni gysylltu ag unrhyw bartneriaid blaenorol ac unrhyw blant rydych chi wedi bod yn rhiant iddynt yn y gorffennol. 
  • Asesiad risg ar eich cartref a’ch cerbydau, yn ogystal ag asesiad ar unrhyw anifeiliaid y byddwch yn gofalu amdanynt neu'n berchen arnynt.
  • Bydd aelod penodol o’r tîm gwaith cymdeithasol mabwysiadu yn cynnal asesiad addasrwydd manwl arnoch chi a'ch teulu. Unwaith y bydd hwnnw wedi'i gwblhau'n llwyddiannus, bydd eich adroddiad yn cael ei gyflwyno gerbron Panel Mabwysiadu. Bydd disgwyl i chi fynychu’r panel. 

Ar unrhyw adeg yn ystod y broses hon, fe allech chi neu’r Asiantaeth Fabwysiadu benderfynu nad yw mabwysiadu’n iawn i chi neu eich teulu, ac fe ddaw’r asesiad i ben.

Rhestr ddarllen a argymhellir:

  • ‘‘Preparing for adoption"   gan Julia Davies
  • ‘‘The unofficial guide to adoptive parenting’’ gan Sally Donovan
  • “The Adopter’s Handbook” gan Amy Salter  
  •  “Attachment, Trauma and Resilience” gan Kate Cairns 
  • “An Adoption Diary” gan Maria James
  • “Talking about adoption to your adopted child” gan Marjorie Morrison
  • “From fear to Love” gan Bryan Post
  • “Parenting a child with emotional & behavioural difficulties” gan Dan Hughes   (yng nghyfres Parenting Matters)
  • “Adopted Children Speaking” gan Caroline Thomas
  • “Adopters on Adoption: Reflections on parenthood and children” gan David Howe 
  • “Life Story Books for Adopted Children; a family friendly approach” gan Joy Rees

Ar ôl cael eich cymeradwyo - beth sy'n digwydd nesaf?

Ar ôl ichi gael eich cymeradwyo, yn aml bydd cyfnod o aros cyn y cam nesaf: eich cysylltu chi â phlentyn. Gall hwn fod yn gyfnod rhwystredig, ond bydd eich Gweithiwr Cymdeithasol yn cadw mewn cysylltiad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi a sicrhau nad ydych yn teimlo eich bod wedi cael eich anghofio. Pan fyddwn wedi dod o hyd i blentyn a allai fod yn gydweddiad addas, gall y broses o gyflwyno a gosod y plentyn gyda chi ddigwydd yn gyflym iawn.

Bydd lleoliad eich plentyn gyda chi yn cael ei adolygu'n rheolaidd yn ystod y misoedd cyntaf er mwyn sicrhau bod eich plentyn yn ymgartrefu a bod y teulu'n ymdopi â'r cyfnod hwn o newid. Pan fydd eich plentyn wedi bod gyda chi am o leiaf 10 wythnos, cyhyd â bod y plentyn yn setlo a bod popeth yn mynd yn dda, byddwch yn gallu gwneud cais am orchymyn mabwysiadu trwy'r llysoedd. Bydd eich Gweithiwr Cymdeithasol yn egluro'r broses a'r costau sydd ynghlwm â hyn.

Os na fyddwn wedi dod o hyd i gydweddiad o fewn 3 mis bydd eich manylion yn cael eu hychwanegu at Gofrestr Fabwysiadu Cymru. Fodd bynnag, rydym yn gofyn ichi roi amser inni ar ôl ichi gael eich cymeradwyo er mwyn i'r Asiantaeth Fabwysiadu gael yr amser i edrych ar yr holl bosibiliadau o ran eich cydweddu â phlentyn o Ganolbarth a Gorllewin Cymru.

Cymorth i fabwysiadwyr

"Gweld y Plentyn Cyfan"

Lansiwyd ymgyrch Gweld y Plentyn Cyfan gan y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol ar 13 Gorffennaf 2016.
Ei nod yw dod o hyd i fabwysiadwyr i blant sydd â datblygiad hwyr, problemau iechyd ac sydd o grŵp mawr o frodyr/chwiorydd, sef y grŵp o blant sy’n derbyn gofal sy'n aros hiraf cyn cael eu mabwysiadu.  
Os ydych yn byw yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru ac yn credu y gallwch helpu, cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth:

ymholiadaumabwysiadu@sirgar.gov.uk   |   01267 246970  
Gwasanaeth Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru, Adeilad 1, Parc Dewi Sant, Caerfyrddin SA31 3HB.

———————————————————————————————————————————————————————————

Mae grwpiau cymorth i fabwysiadwyr yn cael eu rhedeg ym mhob un o’n pedair sir: Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys.

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Louise England gan e-bostio LEngland@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 246385.

 

Cyngor Sir Benfro Cyngor Ceredigion Cyngor Powys Cyngor Sir Gâr